Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 6
Tachwedd 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
NDM6856 – Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi nad yw Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu gweithredu:
a) mewn perthynas â chwyn gan Joyce Watson AC dyddiedig 8 Mai; a
b) mewn perthynas ag unrhyw gwyn arall sy'n codi o'r un pwnc.
2. Yn penodi, mewn perthynas ag unrhyw gwyn y cyfeirir ato ym mharagraff 1, Douglas Bain CBE TD fel Comisiynydd dros dro, yn unol ag Adran 4(1) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, ar y telerau a ganlyn:
a) bydd y penodiad yn dod i rym ar 7 Tachwedd 2018.
b) bydd y penodiad yn dod i ben ar unwaith pan roddir hysbysiad i'r Comisiynydd dros dro gan Glerc y Cynulliad.
c) bydd taliad y Comisiynydd dros dro yn gyfradd ddyddiol o £392 (neu pro-rata am ran o ddiwrnod) ar gyfer gweithgareddau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rôl a chyfrifoldebau'r swydd ynghyd â threuliau rhesymol.
d) bydd pob swm y cyfeirir ato ym mharagraff 2(c) i'w dalu i'r Comisiynydd dros dro gan Gomisiwn y Cynulliad.
Dogfen Ategol
Datganiad gan y Comisiynydd Safonau – Cyhoeddwyd ar 16 Hydref 2018
(30 munud)
Dogfen
Ategol
Canfyddiadau'r
Rhaglen Garlam Annibynnol i Adolygu Galwadau
Oren
(0 munud)
(30 munud)
Dogfennau Ategol
Special Measures Framework: May 2018
– September 2019 (Saesneg yn
unig)
Special
Measures Improvement Framework May 2018-September 2018 - Overview
Report (Saesneg yn unig)
Unscheduled Care 90 day plan
(Saesneg yn unig)
(30 munud)
(15 munud)
NDM6847 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Ifori, i’r graddau y bônt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Lywodraeth y DU.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:
Dogfennau'r Bil - Ivory Bill 2017-19 — Senedd y DU (Saesneg yn unig)
(60 munud)
NDM6850 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru).
Gosodwyd y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 11 Mehefin 2018.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 26 Hydref 2018.
Dogfen Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
(5 munud)
NDM6851 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
(60 munud)
NDM6849 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2017-2018.
Dogfennau Ategol
Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Cymru 2017-2018
A
yw Cymru’n Decach?
Tai
a Phobl Anabl - Argyfwng Cudd Cymru
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 -
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi:
a) argymhellion allweddol yr adroddiad ynghylch dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus; a
b) yr argymhelliad yn llythyr y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau at y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn amlinellu ei safbwynt diweddaraf ar gyflwyno dyletswydd economaidd-gymdeithasol.
Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at ddirwyn grant byw'n annibynnol Cymru i ben ac yn credu na all llywodraeth leol ddarparu lefel gyfatebol o gymorth ariannol oherwydd toriadau Llywodraeth Cymru.
Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod cyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth i bobl sy'n goroesi ymosodiadau rhywiol a cham-drin domestig yn parhau i fod yn annigonol.
Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y canfyddiad bod tlodi yng Nghymru yn dwysáu ac yn credu y dylai mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldebau dosbarth chwarae rôl allweddol o ran hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol.
Gwelliant 5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y twf rhyngwladol mewn symudiadau gwleidyddol sy'n ceisio dirwyn amddiffyniadau hawliau dynol yn ôl ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun ar gyfer cynnal hawliau dynol ar ôl ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 7 Tachwedd 2018